Ail-lenwi Hydrogen
Ail-lenwi Hydrogen Nwyol (H2)
Mae ail-lenwi cerbydau presennol gyda thanwydd mewn gorsaf betrol yn cymryd tua 5-6 munud. Dylunnir ail-lenwyr H2 gyda'r nod hwnnw mewn cof. Mae'r orsaf ail-lenwi wedi'i dylunio i lenwi cerbyd sydd â thanc ar 350 bar a 15°C. Y meini prawf 'llawn' pwysicaf yw'r gwasgedd terfynol yn nhanc y cerbyd; gyda llenwi màs fel targed os yw data cyfathrebu'r cerbyd ar gael.
I wneud hynny mae'r system yn defnyddio system lenwi gynyddol. Yn y lle cyntaf caiff tanc y cerbyd ei gydbwyso gyda system storio hydrogen 200 bar. Unwaith y cyrhaeddir y cydbwysedd, parheir i lenwi'r cerbyd gyda system storio hydrogen 410 bar.Pan na chyrhaeddir y gwasgedd ar ôl y cydbwyso gyda'r system storio, cwblheir y broses o lenwi drwy gywasgu uniongyrchol.
Arweinir y broses o lenwi'r cerbyd gan gyfarwyddiadau ar banel rheoli'r system lenwi (rhyngwyneb sgrin gyffwrdd i ddefnyddiwr). Y weithdrefn sylfaenol ar gyfer llenwi gwasgedd yw parcio'r cerbyd gyda'r injan wedi'i ddiffodd, cysylltu'r atodyn tirio â'r cerbyd, cysylltu'r bibell lenwi a dechrau llenwi gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau ar y sgrin. Pan fydd y broses o lenwi wedi'i gorffen, bydd angen datgysylltu'r bibell ac wedyn yr atodyn tirio.
Fel yn achos ail-lenwyr H2; Mae ail-lenwyr HCNG wedi’u dylunio gyda’r nod o ail-lenwi cerbyd o fewn 5 i 6 munud. Mae'r orsaf ail-lenwi wedi'i dylunio i lenwi cerbyd sydd â thanc ar 200 bar a 15°C. Y meini prawf 'llawn' yw'r gwasgedd terfynol yn nhanc y cerbyd.
Yr egwyddor yw llenwi yn yr un modd ag ail-lenwi â H2 ond y tro hwn gan fod angen cymysgedd o H2 cywasgedig a nwy naturiol cywasgedig, mae'r system yn cydbwyso tanc y cerbyd bob cam gyda phwynt gwasgedd gosodedig, yn dibynnu ar y cymysgedd o H2 yn CNG. Y cymysgeddau sydd ar gael yw 100% CNG neu 10%, 20%, 30%, 40% H2 mewn CNG.
Mae'r peiriant cyflenwi HCNG yn cydbwyso gwasgedd bob yn ail â'r System Storio H2 200 bar a'r System Storio CNG 260 bar (gan ddibynnu ar werthoedd y cymysgedd) nes cyrraedd y gwasgedd gosodedig terfynol o 200 bar yn nhanc y cerbyd.
Rheolir y weithdrefn lenwi trwy ddull tebyg i'r ail-lenwr H2 - arweinir y broses o lenwi'r cerbyd gan gyfarwyddiadau ar banel rheoli'r system lenwi (rhyngwyneb sgrin gyffwrdd i ddefnyddwyr). Y weithdrefn sylfaenol ar gyfer llenwi gwasgedd yw parcio'r cerbyd gyda'r injan wedi'i ddiffodd, cysylltu'r atodyn tirio â'r cerbyd, cysylltu'r bibell lenwi a dechrau llenwi gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau ar y sgrin. Pan fydd y broses o lenwi wedi'i gorffen, bydd angen datgysylltu'r bibell ac wedyn yr ategyn tirio.