Celloedd Tanwydd Sefydlog

Caiff yr hydrogen wedi'i gywasgu ei ddefnyddio hefyd i fwydo cell danwydd 12kW Hydrogenics PEM a osodwyd gan UPS Systems. Mae'r gell danwydd yn bwydo trydan yn ôl i'r adeilad yn ystod cyfnodau pan fydd y cyflenwad o drydan adnewyddadwy'n gyfyngedig.

Mae celloedd tanwydd yn trawsnewid ynni cemegol mewn hydrogen ac ocsigen yn ynni trydanol. Maent yn cynnig ffynhonnell lân, werdd, amgen o ynni. Heblaw am ddŵr a gwres, nid ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau. Gosodir cell danwydd PEM Hydrogenig 12kW gan UPS Systems. Caiff hydrogen cywasgedig (sydd o leiaf yn 99.99% pur gyda phwysedd uchaf o 600 kPa) ei fwydo i ochr anod y gell danwydd, a chaiff ocsigen, ar ffurf awyr, ei fwydo i'r ochr catod, mae'r gell danwydd yn eu cyfuno i ffurfio anwedd dŵr ac yn cynhyrchu ïonau negyddol (electronau) a ddelir yn y bilen i gynhyrchu cerrynt uniongyrchol. Mae'r trydan a gynhyrchir yn cael ei fwydo'n ôl i'r Ganolfan Hydrogen drwy wrthdröydd DC/AC yn ystod cyfnodau pan fydd y cyflenwad o drydan adnewyddadwy'n gyfyngedig. Mae'r system yn dangos sut y gall ynni adnewyddadwy ddarparu datrysiad pŵer sy'n dawel, yn lân, nad oes angen llawer o waith cynnal a chadw arno ac sy'n ddibynadwy tra'n helpu i leihau ôl troed cyffredinol y ganolfan.

Mae'r ganolfan yn canolbwyntio'n bennaf ar ymchwilio i ddatblygu dyluniad system cell danwydd PEM sefydlog er mwyn gwella'i weithrediad pan gaiff ei integreiddio â systemau trydan adnewyddadwy. Bydd yr ymchwilio a'r profi'n edrych ar weithrediad ysbeidiol y system ac yn edrych yn arbennig ar ddatblygu systemau rheoli er mwyn optimeiddio gweithrediad er mwyn sicrhau effeithlonrwydd uwch o dan amgylchiadau ysbeidiol.

Y prif feysydd ymchwil yn ddiweddar yw:  

  • Modelu a dadansoddi systemau cell danwydd
  • Ffurfweddu, integreiddio a phrofi is-system cell danwydd a system hybrid
  • Dyluniad strategaeth rheoli effeithiol ar gyfer optimeiddio system cell danwydd mewn systemau adnewyddadwy integredig
  • Datblygiad prosiectau arddangos cell danwydd

 

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo