Datblygiad Seilwaith Hydrogen

Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae eu poblogaeth o 3 miliwn yn gyrru tua 1.5 miliwn o geir ar gyfartaledd o ychydig dros un car/fan y teulu. Mae ychydig o dan draean o'r boblogaeth yn defnyddio car i fynd i'r gwaith ac ar gyfartaledd mae pob cerbyd yn defnyddio oddeutu 1000 litr o danwydd bob blwyddyn. Mae rhwydwaith o 550 o orsafoedd ail-lenwi'n cyflenwi'r tanwydd hwn, y mae hanner ohono'n cael ei werthu mewn 85 o archfarchnadoedd yn ac o gwmpas ardaloedd trefol.  Mae is-rwydwaith llai o tua 90 o orsafoedd ail-lenwi yn gwasanaethu tanwydd i gerbydau LPG drwy leoliadau trefol a gwledig.  Yn y DU yn ei chyfanrwydd, mae'r ffigurau tuag 20 gwaith yn fwy.  Gan ddechrau gydag ychydig o safleoedd a phrosiectau arddangos (ar hyn o bryd yn Nhrefforest a Baglan) a chan ddechrau heb unrhyw gerbydau ar gael, mae angen trefnu cyfleusterau ail-lenwi o'r maint hwn (gan ychwanegu at orsafoedd ail-lenwi cyfredol neu adeiladu rhai o'r newydd) os yw'r mwyafrif o yrwyr i gael eu denu o'r tanwyddau ffosil sydd ar gael yn eang (gyda'r opsiwn hybrid ategyn sy’n dod i’r amlwg ar gyfer dileu allyriadau ) a'u hannog i brynu cerbydau â thanwydd hydrogen heb allyriadau.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo