Datblygad Busnes


Mae gweithgareddau SERC yn cwmpasu llawer o rannau'r sbectrwm ymchwil a datblygu, o ymchwil cam cynnar/sylfaenol i ddatblygiad cyn-fasnachu a gweithgareddau arddangos. Fodd bynnag, mae ffocws clir bob tro ar effaith y gweithgaredd ymchwil a datblygu yn y byd go iawn, h.y. sut y gall yr ymchwil a gynhaliwyd gael effaith o ran creu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd ar gyfer y farchnad.

Er mwyn i’r gweithgaredd hwn fod yn llwyddiannus, rhan o rôl y Ganolfan Hydrogen yw ymwneud yn weithredol â phartneriaid diwydiannol. Gallai hyn fod drwy gynorthwyo cwmnïau gyda chyngor ymgynghorol, arweiniad a gwybodaeth, neu drwy brosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol manylach.

Yn achos cwmnïau yng Nghymru, mae'r gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu, ehangu neu amrywio'r busnes - yn enwedig ym maes hydrogen a chelloedd tanwydd. Ar gyfer cwmnïau y tu allan i Gymru, y bwriad yw cychwyn prosiectau cydweithredol sydd â budd parhaol i Gymru, drwy ddefnyddio hydrogen carbon isel neu dechnoleg cell danwydd a chynnwys anogaeth i ddatblygu gweithgareddau busnes newydd, swyddi a gweithgaredd economaidd yng Nghymru.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo