BioCh4 gyda SOFC

CymruH2Wales - Pecyn Gwaith 6

Methodoleg/disgrifiad o’r pecyn gwaith

Mae asesu a dangos defnydd terfynol ar gyfer nwyon cynnyrch, rhyngolion ac isgynhyrchion proses cynhyrchu biohydrogen yn hanfodol ar gyfer mabwysiadu technolegau cynhyrchu hydrogen a methan biolegol yn y dyfodol. Nodwyd nifer o dechnolegau hanfodol posibl sy'n cynnig manteision unigryw os bydd yn bosibl eu hintegreiddio'n llwyddiannus i'r prosesau cynhyrchu a defnyddio biohydrogen a biomethan.

Integreiddio biohydrogen a biomethan gyda Chelloedd Tanwydd Ocsid Solet

Byddwn yn ymchwilio i ac yn gwerthuso’r gwaith o integreiddio biohydrogen/biomethan â chelloedd tanwydd ocsid solet (SOFCs) ar gyfer cynhyrchu trydan a gwres sefydlog. Mae celloedd tanwydd ocsid solet yn gweithredu ar dymereddau uchel ac mae hyn yn cynnig potensial ar gyfer defnyddio nwyon purdeb is fel tanwydd. Bydd tanwyddau purdeb is ar gyfer SOFCs yn lleihau'r costau o ran ynni, cyfalaf a gweithredu'r system gyfan.

Modelu biohydrogen a biomethan er mwyn disodli CNG.

Mae chwistrellu biohydrogen a biomethan i'r grid nwy naturiol o bwys mawr o ran datgarboneiddio'r seilwaith nwy presennol yn y DU. Mae gan y DU grid nwy sydd bron ymhob man ac mae hyn yn cynrychioli dull effeithlon o gludo tanwyddau nwyol i bwyntiau eu defnydd terfynol. Mae'r Grid Cenedlaethol yn ystyried y potensial ar gyfer chwistrellu biomethan a gynhyrchwyd o dreulio anerobig i'r grid, ac mae peth potensial i integreiddio canran (hyd at 10%) o hydrogen i'r cymysgedd grid nwy naturiol. Byddai gwireddu'r potensial hwn yn darparu marchnad sylweddol ar gyfer hydrogen a methan a gynhyrchir yn gynaliadwy yn ogystal â dod â 'chyfalaf amgylcheddol' sylweddol i'r grid nwy.

Mae mwy o ddiddordeb mewn defnyddio PHAs fel dewis arall i bolyesterau pydradwy y gellir eu defnyddio mewn ystod o gymwysiadau ar gyfer ffilmiau ac araenau carbon isel. Gyda mwy o ddiddordeb mewn polymerau pydradwy i'w defnyddio fel deunydd pacio mae bellach galw am y deunyddiau hyn.

 

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo