Adennill Cynhyrchion a Rhyngolion

CymruH2Wales - Pecyn Gwaith 5

Datblygu ac optimeiddio glanhau nwy cynnyrch

Mae glanhau nwyon cynnyrch o bwys mawr i gynhyrchu biohydrogen ar raddfa ddiwydiannol.O ganlyniad i'r prosesau cynhyrchu biolegol, mae'r nwyon a gynhyrchir yn cynnwys crynoadau sylweddol o halogyddion fel crynoadau o CO2 a halogyddion, fel H2S.   Mae angen dileu'r halogyddion hyn cyn iddo gael ei ddefnyddio a chynyddu’r crynoadau o H2 neu CH4 i'r graddau y mae'n ymarferol. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer defnydd terfynol newydd fel celloedd tanwydd tymheredd isel, neu injans tanio mewnol (ICEs), sydd angen nwyon ansawdd uchel.Bydd y prosiect yn cynnal ymchwil i nodi'r technolegau presennol a’r technolegau sy'n dod i'r amlwg y gellir eu defnyddio i ddileu halogyddion o'r nwyon cynnyrch a chynhyrchu nwy neu nwyon tanwydd gwerth uchel o ansawdd uchel. 

Bydd yr ymchwil hwn yn golygu ymwneud yn uniongyrchol â chyflenwyr a datblygwyr technoleg er mwyn casglu digon o ddata yn ymwneud â phob technoleg. Caiff canlyniadau'r ymchwil eu cyfuno i 'Adroddiad Diweddaru Nwy H2/CH4 Diwydiannol' a gyhoeddir ac a ddosberthir ar sail anwahaniaethol.

Gwahaniadau Solid/Hylif

Mae defnyddio rhyngolion ac isgynnyrch o'r broses cynhyrchu biohydrogen yr un mor bwysig i ddefnydd diwydiannol y dechnoleg ag yw cynhyrchu ynni. Bydd gwneud y gwerth economaidd mwyaf posibl o’r deunyddiau hyn yn cael effaith sylweddol ar ddichonoldeb y broses yn y farchnad yn y pen draw. Bydd y prosiect hwn yn cynnal ymchwil i ddatblygu nifer o brosesau a fydd yn adfer deunyddiau solet a rhyngolion cemegol defnyddiadwy (ar ffurf Asedau Brasterog Anweddol).

Casglu PHA

Gall y PHA o'r system drawsnewid PHA gymryd amrywiaeth o ffurfiau o ran cyfansoddiad crynoadau o fewn y celloedd a chyflwr ffisiolegol a ffisegol y celloedd. Gall cynhyrchu PHA o gelloedd gael ei gynhyrchu mewn llawer ffurf yn dibynnu ar ddefnydd a'r priodoleddau sydd eu hangen.Nod y pecyn gwaith hwn felly fydd dyfeisio proses gadarn a hyblyg i gynhyrchu nifer o baratoadau sefydlog y gellir eu defnyddio ar eu pennau eu hunain neu'u fformiwleiddio gyda deunyddiau eraill.


Cynhyrchu PHA

Mae'r prosiect yn ymchwilio i gynhyrchu  polyhydrocsialcanoadau (PHAs) sy'n bolymerau bioseiliedig, a fiogynhyrchwyd ac sy’n bydradwy. Mae'r ymchwil yn cynnwys deall proses cineteg a gweithredu systemau monitro, modelu a rheoli newydd er mwyn optimeiddio’r broses o gynhyrchu biopolymerau. Defnyddir swbstradau biomas gradd isel, gwastraffau a gweddillion treuliad anaerobig. Mae ymchwil a datblygu presennol yn cynnwys integreiddio prosesau fel biohydrogen ac eplesu anaerobig asidogenig a threuliad anaerobig gyda phroses cynhyrchu PHA gan ddefnyddio meithriniadau bacterol pur a chymysg.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo