BioHydrogen

CymruH2Wales - Pecyn Gwaith 4

Datblygu Prosesau Biohydrogen a Biomethan

More details of the University of South Wales R&D in this area can be found here

Yn y pecyn gwaith hwn mae gweithgareddau ymchwil a datblygu'n cymryd ymagwedd gyfannol tuag at ddatblygu a defnyddio arbenigedd presennol y Brifysgol ym maes cynhyrchu biodanwyddau hydrogen a methan yn fiolegol o fiomas gradd isel. Mae'r ymchwil yn dilyn y llwybrau defnyddio canlynol:

• Defnyddio adnoddau biomas gradd isel

Er mwyn goresgyn un o'r beirniadaethau mwyaf yn erbyn technolegau biodanwyddau, sef eu bod yn cystadlu â chynhyrchu bwyd, mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau biomas gradd isel, nad ydynt yn cael eu defnyddio’n uniongyrchol gan bobl. Mae hyn yn cynnwys adnoddau fel gwastraff bwyd, llaid carthion, isgynhyrchion y diwydiant bwyd, gweddillion amaeth a glaswelltydd porthiant. Mae'r gwaith yn cynnwys archwiliad o’r adnoddau biomas yng Nghymru a gweddill y DU er mwyn nodi maint a lleoliad daearyddol biomas a nodi a fydd yn bosibl dod â'r ystod amrywiol hon o swbstradau ynghyd i ddatblygu cadwyn gyflenwi gynaliadwy drwy’r flwyddyn ar gyfer cynhyrchu biohydrogen a biomethan.

• Datblygu a Gwerthuso Technoleg System

Mae cynnyrch biohydrogen a methan hefyd yn cael ei optimeiddio ar gyfer ystod o swbstradau y nodwyd eu bod ar gael yng Nghymru a gweddill y DU. Mae nifer o strategaethau i gynyddu effeithlonrwydd cyffredinol y system yn cael eu harchwilio. Mae amrywiaeth o gynlluniau yn y labordai a graddfa beilot ar gyfer cynhyrchu biohydrogen a biomethan yn cael eu defnyddio i werthuso'r strategaethau hyn. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys  ymchwilio i nifer o ragdriniaethau, cynlluniau adweithyddion, gweithdrefnau gweithredu adweithyddion, monitro prosesau a systemau rheoli er mwyn cynyddu bioargaeledd swbstrad drwy wella maint yr hydrolysis ac optimeiddio'r cymunedau microbaidd a'u metabolaethau sylfaenol mewn system eplesu dau gam biohydrogen a biomethan. Nod y gwaith hwn yw datblygu systemau sydd wedi cynyddu cyfraddau llwytho a chynnyrch nwy'n sylweddol, gyda chynnydd effeithlonrwydd posibl o fwy na 200% dros systemau CSTR confensiynol. Mae ymchwil hefyd ar y gweill i wella economeg y system drwy ecsploetio, am yn ail, rhyngolion asid brasterog anweddol ac adnoddau treuliad anerobig

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo