Hyfforddiant Sector Ynni Cymru

W.E.S.T.

Caiff prosiect WEST (Hyfforddiant Sector Ynni Cymru) ei gefnogi gan Raglen Ynni Cydgyfeirio Sefydliad Ymchwil Carbon Isel Cymru Gyfan (LCRI), gyda'r nod o gefnogi'r sector ynni, yn y DU ac yn rhyngwladol, datblygu dulliau i gynhyrchu, storio, dosbarthu a thechnolegau defnydd terfynol carbon isel, yn ogystal â chynnig cyngor ar bolisïau.

Prif nod WEST yw datblygu sgiliau i gynorthwyo defnyddio a manteisio ar dechnolegau newydd a ddatblygwyd drwy brosiectau ymchwil LCRI. Bydd hyn yn sicrhau y caiff ymchwil diwydiannol ei ddosbarthu drwy'r ffrydiau addysgol traddodiadol yn ogystal ag yn uniongyrchol i ddiwydiant drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD).

Bydd WEST yn adolygu'r cyflenwad cyfredol o addysg carbon isel o fewn y Sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng Nghymru, ac yn datblygu strategaeth addysg carbon isel i Gymru.

Nod WEST yw cyflenwi rhaglenni ar lefelau 4 a 5, gan ymdrin â phob topig allweddol o fewn LCRI, sef:

•    Hydrogen
•    Cynhyrchu Pŵer ar Raddfa Fawr
•    Amgylcheddau Adeiledig Carbon Isel
•    Morol
•    Solar ffotofoltaig

Gallwch gael mwy o wybodaeth am brosiect WEST ar y wefan neu ar y porthiant twitter

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo