Datblygu Seilwaith Hydrogen

Cynyddu Seilwaith Ail-lenwi Hydrogen yn Strategol

Mae nifer o ffactorau presennol yn gwneud Cymru'n lleoliad rhagorol ar gyfer mabwysiadu ynni hydrogen yn gynnar, gan gynnwys capasiti diwydiannol ar gyfer cynhyrchu hydrogen ar hyd coridor yr M4, sector cerbydau modur cryf ac adnodd ynni adnewyddadwy mawr. Fodd bynnag, mae nifer o rwystrau i'w goresgyn cyn iddo fod yn bosibl mabwysiadu hydrogen fel tanwydd glân y gellir ei ddefnyddio bob dydd.

Mae Prifysgol De Cymru yn chwarae rôl arweiniol o ran sefydlu seilwaith ail-lenwi hydrogen yn y DU. Mae gorsaf ail-lenwi hydrogen gyntaf Cymru wedi'i gosod yng Nghanolfan Ymchwil Hydrogen y Brifysgol ym Maglan, gyda'r fantais bod yr hydrogen yn cael ei gynhyrchu ar y safle gan ddefnyddio hydrogen adnewyddadwy. At hyn, mae'r Brifysgol wedi gosod ail orsaf ail-lenwi hydrogen yng nghampws Glyn-taf. Mae'r rhain yn darparu sylfaen ar gyfer ymchwil a datblygu ac arddangos cerbydau hydrogen, i gerbydau a ddatblygir gan y Brifysgol a chyda phartneriaid yn y diwydiant.

Mae'r datblygiadau hyn yn werthfawr o ran galluogi datblygu ac arddangos cerbydau yn y lle cyntaf, ond er mwyn sefydlu seilwaith ail-lenwi ar raddfa fawr mae angen ymdrech mawr gan y llywodraeth, y sector ariannol a diwydiant.  Mae hefyd yn glir na all hyn ddigwydd yng Nghymru'n  unig heb gysylltiad â gweithgaredd yng ngweddill y DU neu yn Ewrop. Yng ngoleuni hyn, mae'r Brifysgol wedi chwarae rôl sylweddol o ran cynghori Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y maes hwn ac mae'n gweithio'n agos gyda sefydliadau diwydiannol allweddol yn y camau cyntaf o ran datblygu seilwaith ail-lenwi hydrogen.

Un enghraifft sylweddol o'r gweithgaredd hwn yw'r rôl ymgynghorol a chwaraeir gan y Brifysgol yn y cytundeb rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU wrth greu'r Ardal Economaidd Carbon Isel (LCEA) sy'n canolbwyntio ar dechnolegau hydrogen. Nod yr LCEA yw cyflymu gweithgaredd datblygiad economaidd carbon isel, yn yr achos hwn drwy ddatblygu coridor tanwyddau amgen yn canolbwyntio ar yr M4 ac yn lle cyntaf yn seiliedig ar gyfleusterau ail-lenwi hydrogen y Brifysgol ym Maglan a Glyn-taf.

Er mwyn ategu'r rôl ymgynghorol hon, mae ymchwil y Brifysgol yn y maes hwn yn cynnwys llif traffig logisteg a gofodol a modelu ac optimeiddio'r defnydd a wneir o’r dechnoleg. At hyn, mae'r gweithgaredd ymchwil yn cwmpasu datblygiad economaidd technolegau cynhyrchu, storio a chyflenwi hydrogen a bydd yn mynd i'r afael â’r agweddau economaidd-gymdeithasol drwy ymdrech cydweithredol gyda phartneriaid LCRI ym Mhrifysgol Caerdydd a phartneriaid o Gonsortiwm Ynni Hydrogen Cynaliadwy EPSRC SUPERGEN UK. Nod yr ymchwil hwn yw arwain penderfynwyr ymhellach a chynorthwyo gyda chynllunio strategol ar gyfer datblygu seilwaith ail-lenwi hydrogen gan gynnwys llwybrau trawsnewid optimaidd.

At hyn, defnyddir arbenigedd y Brifysgol yn y maes hwn i gynghori Llywodraeth Cymru a rhanbarthau'r DU sy'n weithgar mewn technoleg hydrogen drwy 'Gytundeb Bryste'. Mae'r corff cydlynu hwn yn ymgysylltu â llywodraeth y DU a gwneuthurwyr cerbydau modur mawr i ysgogi datblygu seilwaith tanwyddau amgen a phrofi a defnyddio cerbydau. Mae gweithgaredd LCEA a Chytundeb Bryste eisoes wedi arwain at brosiect ail-lenwi â hydrogen mawr yn Swindon, gyda'r Brifysgol yn chwarae rôl ymgynghorol arwyddocaol.

Mae gweithgaredd ymchwil a datblygu ac ymgynghori'r Brifysgol felly o bwys mawr i uchelgais Llywodraeth Cymru i "adeiladu ar sgiliau ac arbenigedd presennol er mwyn arwain y DU ym maes ymchwil a datblygu a buddsoddi mewn hydrogen."

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo