Ardal Economaidd Carbon Isel

ARDAL ECONOMAIDD CARBON ISEL YNG NGHYMRU

O Ddatganiad Ysgrifenedig i'r Cabinet a baratowyd ar 12 Chwefror2010 gan Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

"Pleser o'r mwyaf yw cyhoeddi bod Cymru wedi cael ei dynodi'n Ardal Economaidd Carbon Isel ar gyfer technolegau tanwydd hydrogen a charbon isel.

Bydd datblygu coridor tanwydd amgen ar hyd traffordd yr M4 yn caniatáu profi a defnyddio cerbydau sy'n rhedeg ar hydrogen, nwy naturiol, biomethan neu drydan yn effeithiol.

Bydd manteision yr Ardal Economaidd Carbon Isel yng Nghymru yn cynnwys:

•    Dull wedi'i gydlynu a'i arwain yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar elwa ar yr arbenigedd sy'n bodoli eisoes mewn perthynas â thanwyddau hydrogen ac amgen
•    Llwyfan i ddatblygu swyddi gwyrdd yng nghadwyn gyflenwi'r sector modurol ac ym maes celloedd tanwydd sefydlog
•    Mantais gystadleuol wrth ddenu buddsoddiad newydd mewn technolegau hydrogen ac annog mwy o ymchwil a datblygu yn y maes
•    Cyflymu twf y diwydiannau carbon isel, y sylfaen sgiliau a'r gadwyn gyflenwi.

Mae'r Ardal Economaidd Carbon Isel yn gyfle i Gymru ysgogi twf mewn technolegau carbon isel wedi'r dirwasgiad.  Mae hyn yn adeiladu ar ein cynlluniau presennol, ein sgiliau cynhenid, ein sylfaen ymchwil a datblygu, ein seilwaith a'n hadnoddau naturiol. O ganlyniad i hynny, gallai brand yr Ardal Economaidd Carbon Isel gryfhau'r achos dros ddenu cyllid, a byddai'n golygu bod Cymru'n cael ei chydnabod fel rhanbarth sy'n arwain y maes yn y DU.

Rydym yn rhagweld y bydd sefydlu'r Ardal Economaidd Carbon Isel ar gyfer tanwyddau hydrogen ac amgen o ddiddordeb mawr i weithgynhyrchwyr cerbydau modur, gwneuthurwyr cydrannau, ac ymchwilwyr yn fyd-eang. Bydd presenoldeb un o'r coridorau hiraf yn Ewrop ar gyfer hydrogen, er enghraifft, yn rhoi lle amlwg i Gymru ym maes technolegau trafnidiaeth amgen.  Bydd hyn yn fantais enfawr wrth geisio sefydlu clystyrau o ddiwydiannau perthnasol a chyfleoedd i ddatblygu swyddi a sgiliau cysylltiedig yn y maes cyffrous hwn.

Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i gynyddu'r cyllid ymchwil sydd ar gael i'n sefydliadau academaidd, fel bod modd iddynt barhau i chwarae rhan bwysig mewn datblygu technolegau, cynhyrchion a phrosesau newydd i hybu'r economi a helpu i adfywio'r economi yn sgil y dirwasgiad."

Byddwn yn parhau i ddatblygu cyfleoedd eraill i feithrin gweithgareddau economaidd carbon isel mwy effeithiol er mwyn creu swyddi gwyrdd a dod â chanlyniadau cynaliadwy.  Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, ynni adnewyddadwy'r môr ac ystyriaeth bellach i ddefnyddio tanwyddau carbon isel yng nghyd-destun polisïau trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol.

Bydd cysyniad yr Ardal Economaidd Carbon Isel yn helpu i ysgogi datblygiad economaidd, yn unol â Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, y Strategaeth Swyddi Gwyrdd, a'n haddewid i leihau allyriadau 3% y flwyddyn erbyn 2011 mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.

Dyma enghraifft gynnar o'n dull newydd i ddatblygiad economaidd sydd ei angen i ymdrin â heriau pwysig y newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd. Bydd angen dulliau tebyg mewn meysydd datblygu economaidd carbon isel eraill, fel ynni adnewyddadwy'r môr.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo