SOLCER

Gweithrediad Call ar gyfer Rhanbarth Ynni Carbon Isel (SOLCER)

Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i 'weithrediad call' o ran systemau cyflenwi, storio a defnyddio ynni yng Nghymru. Bydd y dod â phob partner ymchwil LCRI ynghyd ar sail draws ddisgyblaethol, yn seiliedig i ddechrau ar yr allbynnau technegol o bob un o'r rhaglenni LCRI sydd ar y gweill, gan gynnwys gwaith ymchwil SERC ar hydrogen, cell danwydd a threuliad anaerobig.

Bydd SERC yn arwain y pecyn gwaith storio ynni, ond bydd ganddo fewnbwn i'r pecynnau gwaith ar gyflenwi, dosbarthu ac integreiddio. Bydd ein ffocws arbrofol ar gyfer y prosiect hwn yn cynnwys datblygu dulliau storio ynni hydrogen ymhellach, cerbydau hydrogen, glanhau biomas a chyfleusterau profi cell danwydd ocsid solet.

Y canlyniad fydd cyfres o astudiaethau achos a chanllawiau, wedi'u hadeiladu ar ddatblygiad arbrofol, ar gyfer perfformiad ynni carbon isel ar draws ystod o raddfeydd a lleoliadau daearyddol ar raddfa adeilad, graddfa drefol, graddfa ranbarthol / grid a bydd yn cynnwys ystyried ardaloedd trefol a gwledig, drwy ymchwilio i gymwysiadau mewn lleoliadau penodol yng Nghymru.

USW Logo
LCRI
SERC
ERDF logo